Leonard Hobhouse | |
---|---|
Ganwyd | 8 Medi 1864 St Ive |
Bu farw | 21 Mehefin 1929 Alençon |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, cymdeithasegydd, academydd, athronydd, gwyddonydd gwleidyddol |
Cyflogwr | |
Tad | Reginald Hobhouse |
Mam | Caroline Salusbury-Trelawny |
Priod | Nora Hadwen |
Plant | Reginald Oliver Hobhouse, Leonora Hobhouse, Marjorie Berta Hobhouse |
Cymdeithasegydd, damcaniaethwr gwleidyddol, ac athronydd rhyddfrydol o Loegr oedd Leonard Trelawny Hobhouse (8 Medi 1864 – 21 Mehefin 1929).[1]
Ganed ym Mhorth Ia, Cernyw. Aeth i Goleg Corpus Christi, Rhydychen, ym 1883, ac wedi iddo dderbyn ei radd dechreuodd addysgu yno ym 1887. Fe'i etholwyd yn gymrawd yng Ngholeg Corpus Christi ym 1894. Symudodd o Rydychen i Fanceinion ym 1897 a gweithiodd i bapur newydd The Manchester Guardian dan olygyddiaeth C. P. Scott. Ymddiswyddodd o'i orchwyl parhaol i'r Guardian ym 1902, ond cyfrannodd yn achlysurol at y cyhoeddiad hwnnw am flynyddoedd lawer. Cyfrannodd at gylchgronau rhyddfrydol, radicalaidd, gan gynnwys The Nation, a bu'n olygydd gwleidyddol y Tribune o 1905 i 1907.
Gwasanaethodd Hobhouse yn ysgrifennydd yr Undeb Masnach Rydd o 1903 i 1905, a bu'n dyfarnu ar sawl anghydfod diwydiannol. Ym 1907 penodwyd Hobhouse i Gadair Gymdeithaseg Martin White yn Ysgol Economeg Llundain, a bu yn y swydd honno am weddill ei oes. Bu farw yn Alençon, yng ngogledd-orllewin Ffrainc, yn 64 oed.